Text Box: David Wallace a Chris Brodie 
 Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr
 100 Stryd Bothwell
 Glasgow
 G2 7JD

3 Chwefror 2016

Annwyl David a Chris

Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr a Chyflwyno Benthyciadau Ôl-raddedig yng Nghymru

 

Rwy’n ysgrifennu i ofyn am eglurhad ar y newidiadau i fenthyciadau i fyfyrwyr yng Nghymru a Lloegr.

Yng nghyfarfod craffu’r Pwyllgor ar 14 Ionawr 2016, dywedodd Julie James, Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Llywodraeth Cymru, wrthym fod Llywodraeth Cymru yw "bryderus iawn" bod y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau i gyflwyno benthyciadau ôl-raddedig yn Lloegr, ond nad yw ar hyn o bryd mewn sefyllfa i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno benthyciadau ôl-raddedig yng Nghymru.

Rydym hefyd yn ymwybodol bod Huw Lewis, Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at Jo Johnson AS, y Gweinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth ar y pwnc hwn ar 28 Medi 2015. Yn y llythyr hwnnw, dywedodd Huw Lewis fod:

§  Newidiadau diweddar i’r fframwaith noddi a llywodraethu y mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn gweithredu oddi mewn iddo wedi cael eu gyrru gan fuddiannau yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau ar draul y Gweinyddiaethau Datganoledig;

§  Roedd y pedair adran noddi ar draws y DU wedi dod i "ddealltwriaeth gyffredin" na ddylai unrhyw newidiadau mawr mewn polisi gael eu gweithredu hyd nes i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr sefydlogi ei allu i gyflenwi a disodli ei systemau craidd;

§  O ganlyniad i’r gofynion "sylweddol iawn" a wnaed gan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau, nid yw’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedi gallu ymateb i unrhyw un o’r ceisiadau gan y Gweinyddiaethau Datganoledig ar gyfer y flwyddyn academaidd 2016/17.

Aeth Huw Lewis ymlaen yn ei lythyr i restru ei asesiad o nifer o anawsterau pellach, gan gynnwys:

§  Bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn gweithredu cynllun benthyciadau ôl-raddedig ar gyfer Lloegr ond ni fyddant yn gallu cynnig cynllun tebyg ar gyfer Cymru, er gwaethaf y ffaith mai dyna fyddai nod polisi Llywodraeth Cymru;

§  Mae wedi bod yn ofynnol i’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ail-ddylunio’r pecyn cymorth cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyrwyr sy’n byw yn Lloegr ond nid yw’r Cwmni wedi gallu rhoi ar waith unrhyw beth heblaw cynnydd cyfradd unffurf mewn benthyciadau cynhaliaeth ar gyfer Cymru; ac

§  Ni fydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn gallu gwneud unrhyw newidiadau i system Cymru o gymorth cynhaliaeth.

Rydym yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud cyfraniad ariannol cymesur at gostau rhedeg y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr. Ein pryder yw a yw myfyrwyr Cymru yn derbyn gwasanaeth cyfartal i gymharu â’u cymheiriaid yn Lloegr ac a yw Llywodraeth Cymru yn derbyn gwerth am arian am y gwariant hwn o arian cyhoeddus.

Byddem yn ddiolchgar am eich asesiad o’r sefyllfa; eich ymateb i’r sylwadau hyn; yr wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau dilynol mewn cysylltiad â chyflwyno benthyciadau ôl-raddedig; unrhyw drafodaethau am allu’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i gefnogi newidiadau polisi posibl eraill yn y dyfodol, er enghraifft, mewn perthynas â’r pecyn cymorth cynhaliaeth yng Nghymru; a’ch sylwadau ar eich trefniadau cydweithredol gyda Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig.

Rydym hefyd wedi ysgrifennu at Jo Johnson, y Gweinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth i ofyn am ei sylwadau. Ar hyn o bryd mae’r Pwyllgor yn ysgrifennu ei adroddiad etifeddiaeth ar gyfer tymor y Cynulliad hwn (2011-16) a byddem felly yn gwerthfawrogi ymateb cynnar oddi wrthych.

Yn gywir,

WG Signature

William Graham AC   Cadeirydd